#

 

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae'r papur hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy'n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n cynnwys adrannau ar y gwaith yn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; a'r Alban ac Iwerddon. Y cyfnod a gwmpesir yw rhwng 4 a 26 Hydref, er cyfeirir at ddigwyddiadau hwyrach pan fo gwybodaeth ar gael ar adeg drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw'r prif Bwyllgor yn y Cynulliad sy'n cydlynu gweithgareddau'r Pwyllgor sy'n ymwneud â gadael yr UE. Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Oblygiadau Posibl Gadael yr UE yng Nghymru.

Dyma sesiynau diweddaraf ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

§    31 Hydref: Polisi'r Amgylchedd a'r Môr – seminar thematig gydag arbenigwyr

§    7 Tachwedd: Perthnasau o fewn y Deyrnas Unedig – seminar thematig gydag arbenigwyr

§    7 Tachwedd: Prif Weinidog Cymru – sesiwn graffu

Caiff gwybodaeth reolaidd ar waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu postio ar Flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Mae'r Pwyllgor hwn wedi lansio galwad am dystiolaeth ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru.

Arall

Mae sawl un o Bwyllgorau'r Cynulliad yn trafod ymchwiliadau posibl i faterion Gadael yr UE ac, wrth i'r rhain ddod yn fwy cadarn, byddwn yn cynnwys manylion yn y papur hwn ar y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Gadael yr UE.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

§    4 Hydref: Cwestiwn Brys i'r Prif Weinidog ar Fil Diddymu Cyfraith yr UE.

§    5 Hydref: dadl ar yr Economi Wledig gyda chynnig wedi'i basio i gefnogi arian Datblygu Gwledig tan 2023, y farchnad sengl a gweithwyr mudol.

§    11 Hydref: Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, y diweddaraf am raglenni cronfa strwythurol Ewropeaidd.

§    12 Hydref: dadl fer: Ymuno â'r Achos: Menywod, Cymru a'r Gymanwlad — rôl Menywod Seneddol y Gymanwlad yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE.

Llywodraeth Cymru

Mae'r Prif Weinidog wedi croesawu'r cyhoeddiad cronfeydd strwythurol gan Lywodraeth y DU, y bydd y Trysorlys yn cynnig gwarant llawn am oes ar gyfer pob prosiect strwythurol a buddsoddiad a gymeradwywyd cyn i'r DU adael yr UE. (4 Hydref)

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, ar 11 Hydref y bydd myfyrwyr yr UE sy'n gwneud cais am le mewn prifysgolion yng Nghymru yn 2017-18yn dal i fod yn gymwys am fenthyciadau a grantiau.

Ar 14 Hydref cyhoeddwyd datganiad ar y cyd gan y Prif Weinidog ac elusennau Cymru ar ffoaduriaid sy'n blant..

Ar 18 Hydref cyfarfu'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid â David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd.

Newyddion arall yn ymwneud â'r UE

Cyhoeddwyd £850,000 ychwanegol o gyllid yr EU i helpu i ysgogi sector peirianneg Cymru gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, ar 8 Hydref.

Ar 14 Hydref cyhoeddwyd bod Ham Sir Gâr wedi cael statws Enw Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd (EUPFN).

Cyhoeddwyd cynllun gwerth £13.5 a gefnogir gan yr UE yn dwyn ynghyd academyddion, clinigwyr a busnesau i arloesi gwaith ymchwil i dechnolegau arloesol gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, ar 20 Hydref.

Rhanddeiliaid o Gymru

§    7 Hydref: Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder ynghylch ansicrwydd o ran cymorth i amaethyddiaeth yn y blynyddoedd yn arwain at Brexit ac ar ôl hynny.

§    10 Hydref: Adroddiad ar ddigwyddiad y Sefydliad Materion Cymreig Brexit-What will it mean for Wales to leave the EU?

§    19 Hydref: Gofynnodd Cymdeithas y Tirfeddianwyr Cefn Gwlad i Aelodau Seneddol Cymru sicrhau nad yw anghenion penodol ffermydd a busnesau gwledig yng Nghymru yn cael eu hanwybyddu wrth i'r DU baratoi i adael yr UE.

3.       Datblygiadau ar lefel yr UE

Y Cyngor Ewropeaidd 

Aeth Prif Weinidog Prydain, Theresa May, i'w chyfarfod y Cyngor Ewropeaidd cyntaf ar 20-21 Hydref ym Mrwsel. Er nad oedd gadael yr UE yn eitem ffurfiol ar yr agenda, cafodd sylw amlwg yn y cyfryngau o'r sesiwn gyda sylwadau gan wahanol Benaethiaid Gwladol/Llywodraethau ar adael yr UE, gan gynnwys y DU, y Prif Weinidog. Mewn cynhadledd i'r wasg ar 21 Hydref, yn dilyn casgliad yr Uwchgynhadledd, dywedodd Theresa May:

It has been an opportunity to talk to all 27 leaders about the UK’s departure from the EU. To make clear that Britain will continue to play a full and active role inside the EU until we leave. And to also make clear that Britain will be a confident, outward-looking country, enthusiastic about co-operating with our European friends and allies, after we leave.

Dywedodd Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk wrth siarad am y DU  yn gadael yr UE ar ôl y diwrnod cyntaf:

Finally, let me say that we were glad to welcome Prime Minister May to her first European Council. Prime Minister May confirmed that the UK will invoke Article 50 before the end of March next year. There will be no negotiations until Article 50 is triggered by the UK so we didn't discuss Brexit tonight. However, the basic principles and rules, namely the Single Market and indivisibility of the four freedoms, will remain our firm stance.

Mae hyn yn dilyn datganiad gan y Llywydd Tusk yn y Ganolfan Polisïau Ewropeaidd ar 13 Hydref mai'r dewis sy'n wynebu'r DU oedd Brexit 'caled' neu ddim Brexit o gwbl, mewn ymateb i araith y Prif Weinidog Theresa May yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol, ad ddarllenodd fel diystyru Brexit 'meddal'.

CETA – Cytundeb Masnach Rydd yr EU Canada

Gwnaeth digwyddiadau yn ymwneud â chadarnhad CETA daflu cysgod, i ryw raddau, ar Uwchgynhadledd yr EU. Roedd Ffederasiwn Senedd Wallonia-Brwsel, yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi pleidleisio i atal CETA, ac er gwaethaf trafodaethau brys, ni ddaethpwyd i gytundeb rhwng Canada, y Comisiwn a senedd ranbarthol Gwlad Belg. Ym mis Gorffennaf, cytunodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd y byddai CETA yn ddarostyngedig i gadarnhad gan seneddau cenedlaethol (yn ogystal â lefel yr UE gan y Cyngor a'r Senedd). Yng Ngwlad Belg, mae hyn yn golygu bod angen cadarnhad gan bob senedd 'ranbarthol' a dyna pam bod cyfyngder gyda Senedd Wallonia-Brwsel yn gwrthod cadarnhau'r cytuniad. Ar adeg ysgrifennu, nid oeddent wedi dod i gytundeb.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Ar 12 Hydref, ymwelodd Michel Barnier, Pennaeth Tasglu'r DU yn y Comisiwn Ewropeaidd, ag Iwerddon am gyfarfodydd â'r Taoiseach Enda Kenny ac uwch swyddogion yn Adran Taoiseach am drafodaethau ddydd Mercher i drafod y DU yn gadael yr UE. Mae'r daith hon yn dilyn ymweliadau tebyg i Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a Romania ers iddo gael ei benodi yn 1 Hydref.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi gosod dyletswyddau gwrth-dympio ar gynnyrch dur Tsieineaidd - mae'r dyletswyddau yn amrywio rhwng 65.1% a 73.7% ar gyfer platiau trwm a rhwng 13.2 a 22.6% ar gyfer dur rholio poeth.

Senedd Ewrop

§    4 Hydref: Cytunodd Senedd Ewrop i'r cadarnhad, gan yr UE, o Gytundeb Paris UNFCCC ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, sy'n caniatáu i'r cytundeb ddod i rym.

§    21 Hydref: Cyfweliad gyda Jens Geier, yr ASE a fydd yn cyd-drafod ar ran y Senedd ynghylch y rhan fwyaf o gyllideb yr EU ar gyfer 2017 "We have to deal with the problem caused by Brexit".

Arall: Yr UE yn y cyfryngau

§    Britain thwarts EU hopes of tougher trade stance on China - Jean-Claude Juncker am i'r UE newid i dariffau uwch ar lefel UDA. (Politico, 20 Hydref)

§    17 Hydref: Ysgrifennodd Prif Weithredwyr y diwydiant dur Ewropeaidd at Benaethiaid Gwladol a Llywodraethau'r UE ynghylch tariffau.

§    Anghofiwch am Frwsel, brwydr anoddaf Brexit yw'r WTO – erthygl yn y Politico yn cyfeirio at gymhlethdod symudiad y DU o aelod-wladwriaeth yr EU i aelod annibynnol o Sefydliad Masnach y Byd. Yn ôl Politico, “overall, Britain’s trade terms depend on so many factors outside London’s control that they are impossible to steer from Westminster”.

§    Crynodeb Reuters o ymateb Ewrop i Theresa May yn pennu dyddiad ar gyfer dechrau trafodaethau i adael yr UE. (10 Hydref)

§    Walloon revolt against Canada deal torpedoes EU trade policy - Senedd ranbarthol yng Ngwlad Belg yn rhoi ergyd angheuol posibl i agenda masnach yr UE ac yn gosod cynsail pryderus ar gyfer trafodaethau'r DU. (Politico, 14 Hydref)

§    Why we lost the Brexit vote gan Daniel Korski, dirprwy gyfarwyddwr uned polisi yn llywodraeth David Cameron (Politico, 20 Hydref)

§    The man who brought you Brexit (The long read, Guardian, 29 Medi)

4.       Datblygiadau ar lefel y DU

Llywodraeth y DU

Parhaodd y Prif Weinidog â'i chyfres o gyfarfodydd â Phennaeth Gwladwriaethau a Llywodraethau Aelod-wladwriaethau'r UE:

§    Ar 10 Hydref, cyfarfu'r Prif Weinidog, May, â Phrif Weinidog yr Iseldiroedd Mark Rutte yn The Hague, a Phrif Weinidog Denmarc Lars Løkke Rasmussen yn Copenhagen.

§    Ar 11 Hydref, cyfarfu ag Arlywydd Croatia Kolinda Grabar-Kitarović yn Llundain.

§    Ar 13 Hydref, cyfarfu â Phrif Weinidog Sbaen Mariano Rajoy yn Madrid.

Ar 11 Hydref, cyhoeddodd Jo Johnson AS, y Gweinidog Prifysgolion, Ymchwil ac Arlosedd y bydd myfyrwyr o'r UE sy'n gwneud cais am le mewn prifysgol yn 2017-18 yn dal i gael mynediad i gymorth ariannu i fyfyrwyr. Bydd eu statws mewnfudo yn cael ei drafod yn ystod y trafodaethau ar adael yr UE.

Cyd-bwyllgor Gweinidogol

Cynhaliwyd cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar 24 Hydref yn Downing Street. Mae'r cyfarfod hwn, a gaiff ei gadeirio gan Brif Weinidog y DU, yn dwyn ynghyd Prif Weinidogion y Gweinyddiaethau Datganoledig (gan gynnwys Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru) yn ogystal â Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU i drafod materion sy'n effeithio ar berthnasau datganoledig. Daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, i'r cyfarfod hefyd, yn ogystal â Gweinidog Brexit Llywodraeth yr Alban, Michael Russell.

Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar adael yr UE ar ôl y Gweinyddiaethau Datganoledig mewn trafodaethau ffurfiol ar Brexit, gyda'r Prif Weinidog yn nodi ei bwriad i gynnig llinell uniongyrchol i'r Gweinyddiaethau Datganoledig i Lywodraeth y DU yn ystod trafodaethau ar adael yr UE. Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddatganiad yn dilyn y cyfarfod a oedd yn tynnu sylw at 'ansicrwydd' parhaus ynghylch manylion am safle'r DU, gan nodi ei fod wedi dadlau am fynediad diymatal i'r Farchnad Sengl yn y cyfarfod. Nododd hefyd fod Llywodraeth y DU wedi 'ildio' i ofynion y gweinyddiaethau datganoledig i gwrdd yn amlach a chael rôl ystyrlon yn nhrafodaethau ar adael yr UE.

Gwnaeth Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, ddatganiad hefyd yn dilyn ei chyfarfod, gan ei ddisgrifio fel “long overdue meeting but unfortunately it was, in large parts, hugely frustrating”. Rhoddodd ragor o fanylion am sylwedd y trafodaethau gan nodi:

As a first step we agreed that there must be a detailed work programme developed ahead of the first meeting of the sub-committee.  Crucially we agreed that this must be integrated with the wider process so that the devolved administrations can influence key Cabinet Sub-Committee decisions. We also agreed that there will be a further meeting of heads of government in the New Year.

Gwnaed datganiad ar y cyd hefyd gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, tra y cyhoeddodd Prif Weinidog y DU ddatganiad yn disgrifio'r cyfarfod yn adeiladol ac y bydd cydweithio â chenhedloedd y DU yn gwneud llwyddiant o Brexit gan nodi:

…the country is facing a negotiation of tremendous importance and it is imperative that the devolved administrations play their part in making it work

Yn ystod yr haf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU sefydlu'r Cyd-Bwyllgor Gweinidogol newydd ar gyfer gadael yr UE ac mai'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael y DU, David Davis AS, fydd yn cadeirio'r Cyd-Bwyllgor. Nid yw wedi cyfarfod eto, ond rydym yn deall y disgwylir iddo gyfarfod ddiwedd yr hydref (fis Tachwedd fwy na thebyg) ond mae'r manylion eto i'w cadarnhau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y Cyd-Bwyllgor dros Adael yr UE.

Adroddiad gan y Sefydliad Llywodraeth

Mae rôl y Cyd-Bwyllgor a strwythurau eraill rhyng-lywodraethol wedi'i gynnwys mewn adroddiad a gyhoeddwyd cyn Cyfarfod Llawn y Cyd-bwyllgor gan y Sefydliad Llywodraeth Four-nation Brexit: How the UK and devolved governments should work together on leaving the EU. Mae'r adroddiad yn galw i Bwyllgor newydd o Weinidogion Brexit i gael ei sefydlu fel rhan o gynllun clir ar gyfer gadael yr UE:

A clear plan should be announced about how ministers from the four governments will work together over the coming months. This should include the creation of a new committee that brings together lead ministers for Brexit from each of the four governments to discuss and agree upon the UK strategy for exiting the EU. The most serious political disagreements will need to be resolved between the four heads of government, but the detailed discussions between the four governments need to be delegated, in particular in the case of the UK Government, given the other pressures on the time of the Prime Minister.

Bydd un o'r awduron (Dr Akash Paun, Ysgol Economeg Llundain) yn arbenigwr yn seminar thematig y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar berthnasau o fewn y DU ar 7 Tachwedd.

Tŷ’r Cyffredin

Sefydlwyd Pwyllgor newydd ar Adael yr UE gyda 21 o aelodau yn cynrychioli'r pleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin. Y Cadeirydd newydd fydd Hilary Benn AS a etholwyd gan Dŷ'r Cyffredin ar 19 Hydref.

Ar 19 Hydref, trafododd y Tŷ gynnig gan yr SNP ar Hawliau Gwladolion yr UE.

Ar 20 Hydref, atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, David Davis, gwestiynau ar Adael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cwestiwn am Economi Cymru.

Ar 10 Hydref, trafododd Tŷ'r Cyffredin y Camau Nesaf o ran Gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan ddechrau gyda datganiad gan David Davis AS. Dilynwyd hyn gan gais (a gafodd ei wrthod) am ddadl brys ar y DU yn Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Telerau Trafodaethau. Yn Nhŷ'r Arglwyddi, cafodd datganiad yr Ysgrifennydd Gwladol ei ailadrodd a chafwyd dadl, y Camau Nesaf o ran Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar 12 Hydref, cododd Brexit yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, trafododd ASau Craffu Seneddol Gadael yr UE.

Mae nifer helaeth o ymchwiliadau a gwaith ar Brexit yn y Pwyllgorau Dethol amrywiol yn Nhŷ'r Cyffredin, gan gynnwys:

§    Y Pwyllgor Addysg: cyhoeddodd alwad am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad - effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar addysg uwch.

§    Y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol: ymchwiliad  - Dyfodol yr Amgylchedd Naturiol ar ôl Refferendwm yr UE.

§    Y Pwyllgor Cyfiawnder: ymchwiliad i oblygiadau Brexit i Dibynwledydd y Goron.

Ar 26 Hydref, clywodd y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd gan y Gweinidog Gwladol David Jones AS, am sut bydd yr adran yn gweithio o ran llunio a chydlynu polisïau a fydd yn llywio perthnasau'r llywodraeth â'r UE.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal “co-ordinated series of inquiries into the key issues that will arise in the forthcoming negotiations on Brexit”.

Cyhoeddodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd adroddiad ar graffu seneddol Brexit ar 20 Hydref.

Cyfarfu Pwyllgor yr UE ar 11 Hydref ar Brexit: Cysylltiadau y DU ac Iwerddon, gyda'r Gwir Anrhydeddus James Brokenshire AS, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon a Mr Robin Walker AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ar 25 Hydref, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyn Taoiseachs Iwerddon Mr Bertie Ahern a Mr John Bruton o'r ymchwiliad Brexit: Cysylltiadau y DU ac Iwerddon.

Ar 13 Hydref, cafodd yr Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE ac Is-bwyllgor Marchnad Mewnol yr UE eu sesiynau tystiolaeth olaf ar Brexit: masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE. Clywodd yr Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE dystiolaeth ar 27 Hydref ar gyfer ymchwiliad Brexit: masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE mewn nwyddau. Bydd gan Is-bwyllgor Marchnad Mewnol yr UE ymchwiliad byr Brexit: masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE mewn gwasanaethau.

Is-bwyllgor Materion Allanol 20/10/2016 Brexit: masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE mewn nwyddau

Is-bwyllgor Materion Ariannol yr UE 12/10/2016 a 19/10/2016 Brexit: gwasanaethau ariannol.

Cyfarfu Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE ar 1 a 19 Hydref ar gyfer Brexit: dyfodol y DU - cydlynu diogelwch a phlismona DU-EU yn y dyfodol. Ar 19 Hydref: gyda Mr Brandon Lewis AS, Gweinidog Gwladol Plismona a'r Gwasanaeth Tân, y Swyddfa Gartref a'r Gwir Anrhydeddus David Jones AC, Gweinidog Gwladol, Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyfarfu Is-bwyllgor Cyfiawnder yr UE ar 13 Hydref am sesiwn dystiolaeth ar Brexit: hawliau a gafwyd. Ar 18 Hydref, rhoddodd llysgenhadon Romania a Gwlad Pwyl dystiolaeth.

26 Hydref: Clywodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad Brexit: amgylchedd a newid hinsawdd.

25 Hydref: Clywodd y Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg dystiolaeth ar oblygiadau Brexit ar wyddoniaeth y DU gan y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth ac Arloesedd, Jo Johnson AS.

Ar 18 Hydref yn y Tŷ roedd cwestiwn ar Brexit: Effaith Economaidd, ac un ar Brexit: Heddwch a Sefydlogrwydd.

Ar 20 Hydref trafododd y Tŷ y cynigion Brexit: Cydweithredu Polisi Tramor a Diogelwch, a Brexit: Polisi Amgylcheddol a Newid Hinsawdd.

Newyddion Arall

Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, EEF (Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianneg), Siambr Fasnach Ryngwladol y DU a techUK wedi llofnodi llythyr agored ar yr angen i'r Llywodraeth weithio gyda busnes wrth iddi gyd-drafod y DU yn gadael yr UE. Maent yn awyddus i gael: mynediad rhydd i Farchnad Sengl yr UE; y Llywodraeth i ddiystyru'r 'opsiwn WTO' yn syth o dan unrhyw amgylchiadau; a thynnu'n ôl cyfnod pontio ar gyfer y safle rheoliadol a chyfreithiol newydd.

Cyhoeddodd Consortiwm Manwerthu Prydain bod yn rhaid cael strategaeth Brexit y DU sy'n canolbwyntio ar fargen deg i ddefnyddwyr. Maent yn disgrifio effaith ddifrifol masnachu o dan reolau WTO, ond yn dweud y gallai'r DU fabwysiadu ei Chynllun Dewisiadau Cyffredinol ei hun ar gyfer gwledydd sy'n datblygu cyn gynted ag y bydd yn gadael yr UE. Maent am gael sicrwydd ar gyfer gweithwyr yr UE sydd eisoes yma. Maent ond am gael deddfwriaeth a rheoliadau domestig ar y diwydiant manwerthu a fydd yn hyrwyddo twf.

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

Pwyllgor Cysylltiadau Ewropeaidd ac Allanol

Ar 6 Hydref, cyhoeddodd y Pwyllgor Long-term Economic Implications of Brexit, a ddaeth i'r casgliad “after around 10 years from the shock, we find Scottish GDP to be between 2% and 5% lower than would have been the case had the UK (and Scotland) remained in the EU”.

Llywodraeth yr Alban

Ar 20 Hydref, lansiodd Prif Weinidog yr Alban ymgynghoriad ar Fil Refferendwm Annibyniaeth drafft.

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog, John Swinney, ar 14 Hydref y bydd cymorth gan Lywodraeth yr Alban ar gyfer astudiaethau ffioedd am ddim yn parhau i fyfyrwyr yr UE sy'n dechrau cyrsiau ym mlwyddyn academaidd 2017-18. Galwodd ar Lywodraeth y DU i roi sicrwydd ynghylch eu statws mewnfudo.

Roedd Gweinidogion yr Alban ym Mrwsel ar 19 Hydref am sgyrsiau ynghylch lle'r Alban yn Ewrop.

6.       Gogledd Iwerddon

Ar 10 Hydref, trafododd y Cynulliad Tyfu Allforion Gogledd Iwerddon, a oedd yn cynnwys trafodaeth ar ffyrdd y mae'r DU yn masnachu gyda gweddill yr UE a'r byd nawr ac ar ôl Brexit.

Ar 17 Hydref, trafododd y Cynulliad Statws Arbennig yr EU ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Ysgrifennodd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog at Brif Weinidog y DU ym mis Awst gyda'u blaenoriaethau ar gyfer trafodaethau Brexit y DU. Ysgrifennodd Theresa May yn ôl ar 14 Hydref, a'u gwahodd i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogol nesaf, a oedd yn cyfarfod ar 24 Hydref.

7.       Cysylltiadau Prydain ac Iwerddon

Tithe an Oireachtas (Senedd Iwerddon)

Yn y Dáil ar 4 Hydref roedd cwestiynau ar ganlyniadau'r refferendwm, ac ymweliad diweddar Llywydd y Cyngor, Donald Tusk ag Iwerddon. Trafodwyd cydweithio rhwng Prydain ac Iwerddon ar 5 Hydref. Trafododd y Seanad ar 5 Hydref adleoli Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd o Lundain i Ddulyn. Ymatebodd y Gweinidog dros Faterion Tramor a Masnach at bwyntiau gan y Seneddwyr ar oblygiadau presennol a dyfodol y refferendwm.

Cyfarfu'r cyd-bwyllgor ar Faterion yr Undeb Ewropeaidd ar 4 Hydref. Atebodd y Gweinidog Gwladol dros Faterion Ewropeaidd y cwestiynau gan gynnwys canlyniadau Uwchgynhadledd Bratislava a phenderfyniad y DU i adael yr UE.

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd:

Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin:

§    Leaving the European Union: Global Free Trade

§    The effect on funding for Wales of the UK leaving the EU